SL(5)226 - Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) yn ei chyfanrwydd ac maent wedi eu gwneud o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae adran 22 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiddymu, drwy reoliadau, y Ddeddf neu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf.
Y weithdrefn
Y weithdrefn uwch.
O dan y weithdrefn uwch, fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf, rhaid gosod drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 60 diwrnod (ac eithrio unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod).
Ar ddiwedd y 60 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau, unrhyw benderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y Rheoliadau drafft.
Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 diwrnod ddod i ben, mae Gweinidogion Cymru am wneud y Rheoliadau yn nhermau’r drafft, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad yn nodi a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, ac os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, rhaid rhoi manylion y sylwadau hynny.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Rydym yn nodi arwyddocâd y Rheoliadau hyn a’r ffaith y byddai’r diddymiad yn golygu y bydd materion cyfansoddiadol a chyfreithiol pwysig (megis parhad cyfraith Cymru sy’n gysylltiedig â’r UE ar ôl ymadael, a phwerau Gweinidogion Cymru i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir) yn cael eu trin o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Rydym hefyd yn nodi bod diddymu’r Ddeddf yn rhan o’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Gweler ein sylwadau o dan Rhinweddau: craffu.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
18 Medi 2018